Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (121) |
Datganiad Personol - Bethan Jenkins
Wnaeth Bethan Jenkins datganiad personol.
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.01
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Cafodd Cwestiynau 1, 2 ac 11 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd a chafodd cwestiynau 5 a 6 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd – eitem wedi'i symud o 20 Mawrth 2013
Dechreuodd yr eitem am 13.50
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 7 a 9 i 15. Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl.
3. Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio – eitem wedi'i symud o 20 Mawrth 2013
Dechreuodd yr eitem am 14.28
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 4 a 6 i 12. Cafodd cwestiynau 1 a 2 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd a chafodd cwestiynau 3, 11 ac 8 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Cafodd cwestiynau 13 i 15 a oedd yn weddill eu gofyn ar ôl y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.
4. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 15.02
Pwynt o Drefn
Nododd Peter Black Bwynt o Drefn ynghylch yr atebion a roddwyd gan Weinidogion yn ystod y Cwestiynau Llafar ar bortffolios a oedd yn newydd iddynt ac effaith hyn ar allu’r Aelodau i graffu ar waith y Gweinidogion. Gofynnodd i’r Llywydd, Gweinidog Busnes y Llywodraeth a’r Pwyllgor Busnes adolygu’r mater. Dyfarnodd y Llywydd y byddai disgwyl i Aelodau, wrth gyflwyno’u cwestiynau, gael ateb o sylwedd gan y Gweinidog cyfrifol yn ôl yr arfer. Atgoffodd yr Aelodau, fodd bynnag, fod y Gweinidogion yn gyfrifol am eu hatebion eu hunain, ac y dylai’r Gweinidog fod yn bragmatig wrth ateb y cwestiynau llafar hyn ar ôl y newidiadau.
Cynnig i ethol Aelod i'r Pwyllgor Busnes
NNDM5196 Rosemary Butler (Gorllewin
Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 17.14, yn ethol Lesley Griffiths (Llafur Cymru)
yn
aelod o’r Pwyllgor Busnes yn
lleJane
Hutt (Llafur Cymru).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5. Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013
Dechreuodd yr eitem am 15.19
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5191 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod fersiwn ddrafft Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 yn cael ei gwneud yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Chwefror 2013.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
11 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
6. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2011-12
Dechreuodd yr eitem am 15.40
NDM5189 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2011-12.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'n benodol gasgliad y Prif Arolygydd mai ‘presenoldeb yw’r agwedd wannaf ar les yn yr ysgolion o hyd’.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r angen, a nodwyd gan y Prif Arolygydd, i roi mwy o gefnogaeth i athrawon wrth fynd ati i sicrhau bod safonau’n gwella.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio mwy ar rannu arferion gorau mewn addysg ar gyfer torri’r cylch tlodi ac anfantais mewn ysgolion.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y canfyddiadau yn yr adroddiad fod y gyfran o ysgolion a gafodd eu harolygu yn 2011-12 y barnwyd eu bod yn rhagorol neu’n dda yn is na’r flwyddyn flaenorol, gyda mwy o ysgolion uwchradd yn y pegynau perfformiad rhagorol neu anfoddhaol.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r canllawiau a roddwyd i ysgolion er mwyn sicrhau bod y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol i dargedu’r cyfraddau uchel o absenoldeb ymhlith disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim, er mwyn codi lefelau cyflawniad disgyblion o gefndiroedd tlotach gymaint â phosibl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
11 |
28 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Estyn yn adrodd am ba mor effeithiol y mae’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion i leihau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a disgyblion o gefndiroedd mwy cefnog.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
20 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn mynegi pryder bod 54 y cant o ysgolion uwchradd a 48 y cant o ysgolion cynradd wedi cael eu nodi ar gyfer ymweliadau dilynol, sy’n fwy na’r llynedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu meincnodau a thargedau cenedlaethol i fonitro'r cynnydd a wneir i fynd i’r afael â’r bwlch rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
10 |
28 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw’r 'disgyblion mwy galluog a thalentog yn cyflawni gystal yng Nghymru ag yn Lloegr', yn ôl yr adroddiad.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
28 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn mynegi cryn bryder bod angen gwella safonau llythrennedd dros hanner yr ysgolion cynradd a’r ysgolion uwchradd yng Nghymru, yn ôl yr adroddiad.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
28 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 10.
Gwelliant 11 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth ganfyddiadau Estyn sy’n awgrymu bod 'perfformiad addysgu sydd o safon gyffredin' yn bodoli.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
14 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 11.
Gwelliant 12 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn annog y Gweinidog i egluro sut y gwnaeth swyddogion Llywodraeth Cymru ddylanwadu ar yr adroddiad hwn gan gorff hyd braich annibynnol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 12:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
43 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 12.
Gwelliant 13 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i fynd i'r afael â'r methiannau yn system addysgol Cymru a nodwyd gan Estyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 13:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
37 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 13.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5189 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2011-12.
Yn nodi'n benodol gasgliad y Prif Arolygydd mai ‘presenoldeb yw’r agwedd wannaf ar les yn yr ysgolion o hyd’.
Yn nodi'r angen, a nodwyd gan y Prif Arolygydd, i roi mwy o gefnogaeth i athrawon wrth fynd ati i sicrhau bod safonau’n gwella.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio mwy ar rannu arferion gorau mewn addysg ar gyfer torri’r cylch tlodi ac anfantais mewn ysgolion.
Yn gresynu wrth y canfyddiadau yn yr adroddiad fod y gyfran o ysgolion a gafodd eu harolygu yn 2011-12 y barnwyd eu bod yn rhagorol neu’n dda yn is na’r flwyddyn flaenorol, gyda mwy o ysgolion uwchradd yn y pegynau perfformiad rhagorol neu anfoddhaol.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Estyn yn adrodd am ba mor effeithiol y mae’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion i leihau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a disgyblion o gefndiroedd mwy cefnog.
Yn mynegi pryder bod 54 y cant o ysgolion uwchradd a 48 y cant o ysgolion cynradd wedi cael eu nodi ar gyfer ymweliadau dilynol, sy’n fwy na’r llynedd.
Yn gresynu wrth ganfyddiadau Estyn sy’n awgrymu bod 'perfformiad addysgu sydd o safon gyffredin' yn bodoli.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
11 |
0 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
7. Dadl: Llais y Cleifion - Cryfhau Rôl y Cynghorau Iechyd Cymuned
Dechreuodd yr eitem am 16.24
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5193 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynigion Llywodraeth Cymru i weddnewid, cryfhau a grymuso Cynghorau Iechyd Cymuned i ymgymryd â’u rôl yn y GIG yn yr unfed ganrif ar hugain.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu ‘i weddnewid, cryfhau a grymuso Cynghorau Iechyd Cymuned’ a rhoi yn ei le ‘ar gyfer Cynghorau Iechyd Cymuned er mwyn eu cynorthwyo’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
21 |
5 |
28 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai aelodau’r Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned sydd yn y sefyllfa orau i benodi eu Cadeirydd, yn hytrach na Gweinidogion Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
1 |
37 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro’r canllawiau ynghylch rôl Cynghorau Iechyd Cymuned i fod yn ‘llais i gleifion’ yn y broses o ad-drefnu gwasanaethau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
28 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cynghorau Iechyd Cymuned yn llais annibynnol i gleifion.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod yn rhaid i Gynghorau Iechyd Cymuned chwarae rhan allweddol wrth fod yn llais cryf i gleifion a'r cyhoedd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cynghorau Iechyd Cymuned yn cael y cyllid a'r hyfforddiant angenrheidiol er mwyn cyfrannu’n effeithiol at y broses o ad-drefnu GIG Cymru yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu Safonau Cenedlaethol Ymgysylltu â’r Gymuned, yn seiliedig ar fodel yr Alban, er mwyn gwella rôl Cynghorau Iechyd Cymuned o ran sicrhau bod safbwyntiau'r cyhoedd yn cael eu hystyried yn briodol wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol am ein GIG.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
39 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5193 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynigion Llywodraeth Cymru i weddnewid, cryfhau a grymuso Cynghorau Iechyd Cymuned i ymgymryd â’u rôl yn y GIG yn yr unfed ganrif ar hugain.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cynghorau Iechyd Cymuned yn llais annibynnol i gleifion.
Yn credu bod yn rhaid i Gynghorau Iechyd Cymuned chwarae rhan allweddol wrth fod yn llais cryf i gleifion a'r cyhoedd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cynghorau Iechyd Cymuned yn cael y cyllid a'r hyfforddiant angenrheidiol er mwyn cyfrannu’n effeithiol at y broses o ad-drefnu GIG Cymru yn y dyfodol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
11 |
0 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
8. Dadl Cyfnod 1 ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) – eitem wedi'i symud o 20 Mawrth 2013
Dechreuodd yr eitem am 17.15
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5192 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru).
Cafodd y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) a’r Memorandwm Esboniadol eu gosod gerbron y Cynulliad ar 3 Rhagfyr 2012.
Cafodd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) ei osod gerbron y Cynulliad ar 7 Mawrth 2013.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
11 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
9. Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) – eitem wedi'i symud o 20 Mawrth 2013
Dechreuodd yr eitem am 18.11
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5190 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii), sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
11 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.12
Daeth y cyfarfod i ben am 18:21
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 20 Mawrth 2013